December 25, 2024

Mae Jeff ar ei phen ei hun yn yr ardd gyda Mistar Pysgodyn Groovy. Erbyn hyn, mae pawb arall wedi cael eu harestio gan yr heddlu oherwydd cyfreithiau’r llywodraeth ffasgaidd.

Rhywsut, mae Jeff wedi osgoi arestiad drwy fod yn glyfar.

Mae Mistar Pysgodyn Groovy wedi osgoi arestiad drwy fod yn rhy groovy.

– Bydd rhaid i ni achub y dydd, meddai Jeff wrth Mistar Pysgodyn Groovy. – Dw i wedi bod yn bwyta bwyd dwbl er mwyn gwneud yn sicr fy mod i’n ddigon cryf i frwydro yn erbyn ffasgaeth.

– On’d wyt ti jyst bach yn rownd? meddai Mistar Pysgodyn Groovy.

– Cryfder yw e, meddai Jeff.

Saesneg / English

Empty Garden

Jeff is on her own in the garden with Mr. Groovy Fish. By now, everyone else has been arrested by the police due to the laws of the fascist government.

Somehow, Jeff has avoided arrest by being clever.

Mr. Groovy Fish has avoided arrest by being too groovy.

– We’ll have to save the day, says Jeff to Mr. Pysgodyn Groovy. – I have been eating double food in order to make sure that I am strong enough to fight against fascism.

– Aren’t you just a little round? says Mr. Groovy Fish.

– It’s strength, says Jeff.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.