December 24, 2024

Mae Daf y gath yn ymarfer ateb cwestiynau. Mae’r staff yn gofyn cwestiynau yn barhaol.

– Daf, wyt ti eisiau bwyd?

– Oes.

– Wyt ti yn y gegin yn barod?

– Ydw.

– Ydy Jeff gyda ti?

– Nac ydy.

– Go iawn?

– Ie.

– A fydd Jeff yn dod i mewn o’r ardd?

– Bydd.

– Byddi di’n bwyta dy fwyd dy hunan heb ddwyn bwyd Jeff?

– Ymm… bydda.

Ond mae Daf yn dweud celwyddau. Bydd Daf yn dwyn bwyd Jeff, heb os nac oni bai.

Saesneg / English

Question and Answer

Dave the cat is practicing answering questions. The staff are constantly asking questions.

– Dave, do you want food?

– Yes.

– Are you in the kitchen already?

– Yes.

– Is Jeff with you?

– No.

– Really?

– Yes.

– Will Jeff come in from the garden?

– Yes.

– Will you eat your own food without stealing Jeff’s food?

– Err… yes.

But Dave is lying. Dave will steal Jeff’s food, without a doubt.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.