October 17, 2024

Mae rhieni Dewi Sant wedi troi lan.

Dyw Dewi Sant ddim yn hoff iawn o’i rieni. Dyw rhieni Dewi Sant ddim yn hoff iawn ohono fe, chwaith.

Iddyn nhw, mae Dewi yn siom eithriadol, does dim ots beth mae e’n gwneud. Hyd yn oed ar ôl iddo fe ddod yn sant, dyw e ddim yn ddigon da iddyn nhw. Dyna pam mae e’n yfed ac ysmygu.

Wedi iddo fe ddioddef sawl awr o glonc glwc, mae e’n rhoi esgus cloff am fynd i’r tŷ bach, a gofyn i’r cathod am help i gael gwared arnyn nhw.

– Beth am i ni ofyn i’r Archfadarch droi nhw yn selsig? meddai Daf. – Byddai Franz Kafka’n hapus iawn.

– Neu allen ni jyst crafu nhw. Yn ddwfn, meddai Jeff. – Neu’u rhoi nhw ar dân.

– Ti’n anfad, meddai Daf.

– Fi’n gwbod, meddai Jeff, yn falch ohoni hi’i hunan. – A ti’n dwpsen.

– Ym, meddai Dewi, – O’n i’n meddwl “cael gwared arnyn nhw” yn llythrennol. Nid llofruddiaeth.

– O, meddai Jeff, – Am siom. Felly beth am roi bach o gwstard Santes Dwynwen iddyn nhw? Mae dy fam yn cael ei dychryn gan fwydydd dieithr. Ac mae cwstard Santes Dwynwen yn ddieithr iawn.

Saesneg / English

Saint David’s Parents

St David’s parents have turned up.

St David does not like his parents. St David’s parents don’t like him either.

For them, St David is a huge disappointment, it doesn’t matter what he does. Even after becoming a saint, he is not good enough for them. That’s why he drinks and smokes.

After suffering several hours of addled waffle, he gives a lame excuse about going to the toilet, and asks the cats for help to get rid of them.

– Why don’t we ask the Archdeacon to turn them into sausages? said Daf. – Franz Kafka would be very happy.

– Or we could just scratch them. Deeply, said Jeff. – Or set them on fire.

– You’re evil, says Dave.

– I know, says Jeff, proud of herself. – And you’re an idiot.

– Um, says St David, – I literally meant “get rid of them”. Not murder.

– Oh, says Jeff, – What a disappointment. In that case why not give them a little San Dwynwen custard? Your mother is terrified of strange foods. And Santes Dwynwen’s custard is very strange.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.