October 16, 2024

Sawl diwrnod yn ddiweddarach, nid oedd dim golwg o Daf y gath o gwbl. Roedd Jeff yn hapus iawn, wrth gwrs, achos bod hynny’n golygu bod hi’n cael bwyd dwbl bob tro. Ond roedd pethau’n dawel iawn heb ddadlau â’i chwaer.

– Allen ni jyst dechre stori newydd heb Daf, meddai Dewi Sant. – A newid teitl y wefan i “Mentrau Jeff y Gath.”

Roedd hynny’n syniad atyniadol.

– Allwn ni ddim! meddai’r Frenhines Branwen yn ddramatig. Roedd hi wedi bod yn dawel iawn yn ddiweddar oherwydd ei chywilydd o ddinistrio amryw o bethau yn yr ardd. – Mae rhaid i ni chwilio amdani hi!

Anelodd y ffigur chwedlonol tuag at glwyd yr ardd, a dorrodd yn sydyn.

– Dwi’n gwbod yn iawn ble mae hi, meddai Jeff.

***

Roedd Daf y gath wedi bod yn aflwyddiannus o ran ei ymgais i ddwyn catnip o’r siop anifeiliaid anwes. Mewn ffordd.

Yn syth ar ôl iddi grwydro i mewn, fe ddechreuodd hen fenyw ei anwesu.

– Ti ‘di mynd ar goll, ond wyt? Tisie bwyd, ciw?

O da iawn, meddyliodd Daf.

– Beth am damaid bach o catnip?

Gwell byth, meddyliodd Daf.

Erbyn i Jeff a’r Frenhines Branwen gyrraedd, roedd Daf yn rhy off ei phen o lawer i symud. Pan ddaethant, prin y gallai hi siarad, hyd yn oed. Roedd hi’n amlwg yr oedd hi’n cael profiad seicedelig dwys iawn.

– Awn ni gytre, ‘te? meddai Branwen.

– Caria fi, meddai Daf, yn gysglyd.

Saesneg / English

Crisis, part 7

Several days later, there was no sign of Dave the cat at all. Jeff was very happy, of course, because that means that she always got double food. But things were very quiet without arguing with her sister.

– We could just start a new story without Dave, says St David. – And change the title of the site to “The ventures of Jeff the Cat.” That was an attractive idea.

– We can’t! said Queen Branwen dramatically. She had been very quiet lately due to her embarrassment at destroying various things in the garden. – We have to look for her! The legendary figure aimed towards the garden gate, which suddenly broke.

– I know full well where she is, said Jeff.


Dave the cat had been unsuccessful in her attempt to steal catnip from the pet shop. In a way.

Immediately after she wandered in, an old woman began to hug her.

– You’re lost, aren’t you? Do you want some food, chick?

Oh very good, thought Dave.

– How about a little catnip?

Better still, thought Dave.

By the time Jeff and Queen Branwen arrived, Daf was too off her head to move. When they came, she could hardly even speak. She was obviously having a very intense psychedelic experience.

Shall we go home then? said Branwen.

– Carry me, said Dave, sleepily.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.