October 16, 2024

Tra oedd Daf y gath mewn panig am golled yr het ddosbarthu, roedd Dewi Sant yn cael gweledigaeth ar y ddaear y tu fas o’i sied. Neu brofiad seicedelig. Doedd neb yn gwybod beth a roddodd yn ei ffags na’i gwrw.

Yn natguddiad Dewi Sant, fe welodd Pedair Het yr apocalyps, yn marchogaeth dros fryniau a chymoedd. Yr het fwyaf, y pedwerydd, oedd yn biws. Ei henw hi oedd Marwolaeth.

Yr het leiaf, y trydydd, oedd yn frown. Ei henw hi oedd Haint.

Yr het fowliwr, yr ail, oedd yn ddu. Ei henw hi oedd Sandra.

Yr het gyntaf, a oedd yn swynwr gwallt, oedd yn oren. Yr oedd yn fawr iawn am swynwr gwallt. Ei henw hi oedd Daf.

– O Swynwr Gwallt Oren, meddai Dewi Sant yn ei freuddwyd. – Rhowch help inni. Ble mae’r het ddosbarthu?

– Dyma hi, meddai Jeff y gath, yn dihuno Dewi Sant yn sydyn gan ollwng yr het ar ei ben.

English / Saesneg

Crisis, part 4

While Dave the cat was in a panic about the loss of the delivery hat, St David was having a vision on the ground outside his shed. Or a psychedelic experience. Nobody knew what he put in his fags or his beer.

In St David’s revelation, he saw the Four Hats of the apocalypse, riding over hills and valleys. The biggest hat, the fourth, was puce. Its name was Death.

The smallest hat, the third, was brown. Its name was Infection.

The bowler hat, the second, was black. Its name was Sandra.

The first hat, which was a fascinator, was orange. It was very big for a fascinator. Its name was Dave.

– O Orange Fascinator, said Saint David in his dream. – Please help us. Where is the delivery hat?

– Here it is, said Jeff the cat, suddenly waking St David by dropping the hat on his head.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.