December 25, 2024

Mae Dewi Sant wedi dod o hyd i flwch o hetiau. Mae e’n canu cân amdanyn nhw wrth iddo yfed ei gwrw yn yr heulwen mewn het fowliwr atyniadol iawn.

– Beth sy’n mynd ymlaen fan hyn? meddai Daf y gath, yn torri ar draws cân Dewi Sant.

– Dw i ‘di ysgrifennu cân ar gyfer y myfyriwr, meddai Dewi Sant, yn falch ohono’i hun.

– Sut mae’n mynd, ‘te? gofynna Daf.

Mae Dewi Sant yn clirio ei wddf.


Un het atyniadol, yn eistedd ar fy mhen
Un het atyniadol, yn eistedd ar fy mhen
Pe taswn i’n ychwanegu het arall ar ddamwain
Yna byddai dwy het atyniadol, yn eistedd ar fy mhen

Dwy het atyniadol, yn eistedd ar fy mhen
Dwy het atyniadol, yn eistedd ar fy mhen
Pe taswn i’n ychwanegu het arall ar ddamwain
Yna byddai tair het atyniadol, yn eistedd ar fy mhen
Tair het atyniadol, yn eistedd ar fy mhen
Tair het atyniadol, yn eistedd ar fy mhen
Pe taswn i’n ychwanegu het arall ar ddamwain
Yna byddai pedair het atyniadol, yn eistedd ar fy mhen

– Syniad lyfli, meddai Daf. – Fel Ten Green Bottles. Ond dyw’r geiriau ddim yn ffitio’r alaw. Actually, mae’n ofnadw. A bydd lot o hetiau ar dy ben di erbyn diwedd y cân.

– Bydd.

Mae Gareth y myfyriwr yn cerdded heibio, yn canu a gwisgo ugain het.

Saesneg / English

Counting Hats

St David has found a box of hats. He is singing a song about them as he drinks his beer in the sunshine in a very attractive bowler hat.

– What’s going on here? says Dave the cat, interrupting St David’s song.

– I’ve written a song for the student, says St David, proud of himself.

– How does it go, then? asks Dave.

St David clears his throat.

One attractive hat, sitting on my head
One attractive hat, sitting on my head
If I accidentally added another hat
There would be two attractive hats sitting on my head
Two attractive hats, sitting on my head
Two attractive hats, sitting on my head
If I accidentally added another hat
There would be three attractive hats sitting on my head
Three attractive hats, sitting on my head
Three attractive hats, sitting on my head
If I accidentally added another hat
There would be four attractive hats sitting on my head

– A lovely idea, says Daf. – Like Ten Green Bottles. But the words don’t fit the tune. Actually, it’s awful. And there will be a lot of hats on your head by the end of the song.

– There will.

Gareth the student walks past, singing and wearing twenty hats.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.