October 16, 2024

Mae Daf y gath yn edrych ar y myfyriwr sydd wedi dod i’r ardd. Gareth yw ei enw ef, ac mae e’n dweud “bore da” wrth Draig y ci yn barhaol. Mae Gareth yn droednoeth.

– Gareth, pam nad oes sgids ‘da ti? meddai Daf.

– Sori, beth? meddai Gareth.

– Ble mae dy esgidiau di?

Mae Gareth yn stryffaglu gyda’r geiriau. Ar ôl munud neu ddwy, mae e wedi paratoi ateb.

– Dw i wedi bwyta fy esgidiau i.

– O. Ymm, da iawn, meddai Daf.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.