Un tro, daeth myfyriwr i’r ardd.
– Shwmae, meddai Daf y gath. – Be ti neud fan hyn?
– Gareth dw i. Dyn dw i. Bore da Draig.
– Ah, un o’r bois DuoLingo wyt ti. Da iawn ti am ddysgu’r iaith. Wyt ti eisiau coffi, neu damaid bach o gwstard Santes Dwynwen?
Roedd tawelwch.
– Bore da Draig, meddai’r myfyriwr.
– Bore da! meddai Draig y ci, yn gyffrous. – Bachgen da dw i bachgen da dw i wnei di daflu’r bêl wnei di wnei di wnei di
Roedd tawelwch.
– Gareth dw i. Dyn dw i. Bore da draig.
– Bore da! meddai Draig y ci, yn gyffrous. – Bachgen da dw i dwi’n dy garu di wnei di daflu’r bêl wnei di wnei di
Roedd tawelwch.
– Gareth dw i. Dyn dw i. Bore da draig. Dw i’n hoffi pannas.
– Mae hyn fel bod mewn drama Samuel Beckett eto, meddyliodd Daf, neu nofel Franz Kafka.
Ar yr eiliad hon, Franz Kafka, a oedd yn rhyfeddol o fach, a redodd heibio, yn cario paced mawr o selsig.
– Shwmae, meddai panasen Kafka, a oedd yn blymwr.