October 16, 2024

Mae Jeff y gath yn hoffi ei beic modur newydd achos ei bod hi’n hoffi mynd yn gyflym iawn. Mae ganddi helmed sbesial â thyllau ar gyfer ei chlustiau.

Ar gyflymder o bedwar deg milltir yr awr, mae ei chynffon yn chwifio o gwmpas y tu ôl iddi hi.

Ar gyflymder o hanner can milltir yr awr, mae hi’n gwibio heibio’r Esgob, sydd ddim yn hapus o gwbl.

Ar gyflymder o chwe deg milltir yr awr, mae hi’n penderfynu mynd ar y draffordd.

Ar gyflymder o gant ac ugain, mae hi’n cael ei thynnu drosodd gan yr heddlu.

– Dyma docyn am oryrru, meddai’r heddwas.

– Diolch yn fawr iawn, meddai Jeff, a gyrru bant ar gyflymder o gant tri deg milltir yr awr, â’i chlustiau’n pipo mas o’i helmed.

1 thought on “Beic Modur, rhan 2

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.