Un tro, daeth aderyn du (a’i blufyn sidan) i’r ardd, gyda’i ffrindiau, sef llwythau o adar du eraill, ac adar du benywaidd, a oedd yn frown budr diflas. Roedd Daf y gath yn gwylio beth oedd yn mynd ymlaen.
Dechreuodd hi orymdeithio tuag at yr adar er mwyn cynnig powlen o gwstard iddyn nhw, achos yr oedd Santes Dwynwen wedi gwneud gormod o’r stwff yr wythnos honno.
Rhoddodd y Prif Aderyn Du’r arwydd rhybudd i’r adar eraill.
– TWPSEN OREN AM DRI O’R GLOCH!
Hedasant i ffwrdd.