October 16, 2024

Mae Jeff y gath dal yn dioddef. Mae hi eisiau mannau ymguddio.

Mae’r staff wedi colli Jeff. Dydyn nhw ddim yn gallu’i ffeindio hi. Ond mae drysau a’r ffenestri ar gau. Felly yn y tŷ yw hi.

Ydy hi yn y tŵr gyda Mistar Afal Hapus? Nac ydy.

Ydy hi mewn blwch cardbord? Nac ydy.

Ydy hi tu ôl i’r soffa? Nac ydy.

Ydy hi o dan y gwely? Nac ydy.

Arhoswch am funud. Beth yw honno yn y peiriant golchi? Mae rhywbeth calico ynddo.

– Beth wyt ti’n gwneud yn y peiriant ‘na, Jeff?, meddai’r Staff.

– Osgoi popeth, meddai Jeff.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.