Yn yr ardd, mae byddin y chwain wedi cyrraedd. Mae chwain ym mhobman – chwain grac a llwglyd.
Mae Jeff yn esgus taw hi yw’r cawr Bendigeidfran, sydd yn esgus bod yn cenhinen, sydd yn esgus bod yn daten, er mwyn i’r cymhlethdod hwn eu atal nhw rhag ei brathu hi.
Dyw hynny ddim yn gweithio.
Mae byddin y chwain yn gorymdeithio tuag ati hi. Mae popeth ar ben.
Mae Jeff yn rhedeg bant, ond mae ffalancs arall o chwain yn aros amdani hi.
O diar.