Un tro, roedd Daf y gath wedi cael swydd mewn swyddfa. Roedd hyn yn hollol anrhagweledig.
Swydd bwysig yr oedd hi. Roedd gyda hi teitl crand, a chyfrifiadur mawr, cryf.
Ond doedd dim byd i’w wneud.
Aeth hi i gyfarfodydd er mwyn gwastraffu amser.
Fe wnaeth hi sleidiau Pwynt Pwer er mwyn gwastraffu amser.
Fe wnaeth hi gyflwyniadau er mwyn gwastraffu amser.
– Mae hyn fel bod mewn ddrama Samuel Beckett, meddyliodd, eto.