December 24, 2024

Ar ôl i’r Cyn-Brifdaten ffrwydro, roedd y tatws i gyd yn hapus. Roeddent i gyd yn bwysig, ac yr oeddent i gyd yn dal i fod ar streic. Felly roeddent yn cael tamaid bach o hwyl a sbri ymhlith y caniau cwrw yn sied Dewi Sant yn lle protestio neu beth bynnag.

Yn sydyn, sylweddolodd un o’r Priftatws bod dail ar un ohonynt, ac yr oedd e’n lot mwy na’r rhai eraill.

– Ffrindiau. Mae twyllwr yn ein plith ni, meddai yn ddifrifol.

– Paid dweud wrth unrhyw un, meddai’r twyllwr, a oedd yn genhinen. – Dwi mewn loads o drafferth. Y cawr Bendigeidfran dw i, yn esgus bod yn genhinen sydd yn esgus bod yn daten.

– Wel, dyna gymhleth, meddai’r Prifdaten.

Lyfodd Daf ei thraed, yn gwbl ddi-ddiddordeb.

Saesneg / English

Impostor

After the former Prime Potato exploded, all the potatoes were happy. They were all important, and they were all still on strike. So they were having a bit of fun amongst the beer cans in St David’s shed instead of protesting or whatever.

Suddenly one of the Prime Potatoes realized one of them had leaves, and was much bigger than the others.

– Friends. There is an impostor among us, he said solemnly.

– Don’t tell anyone, said the impostor, who was a leek. – I’m in loads of trouble. I’m Bendigeidfran y giant, pretending to be a leek who pretends to be a potato.

Well, that’s complicated, says the Chief.

Dave licked her feet, completely without interest.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.