Un tro, daeth balŵn i’r ardd. Balwn aur, fawr oedd hi, a gododd ofn ar Jeff y gath.
– Pam ti rhedeg bant, Jeff? gofynnodd Daf.
– On’d wyt ti’n cofio’r tro diwetha wedd balŵn gyda ni? ymatebodd Jeff.
– Nadw, meddai Daf.
Oediodd.
– O, acsiyli…
Rhedodd Daf bant i ymuno â Jeff yn segurdod gwely y rhosod.