October 16, 2024

Mae Dewi Sant yn deffro, a gweld peiriant anferth newydd yn yr ardd. Mae’r tatws yn cwyno am y sŵn, ond mae pawb arall yn gwylio mewn cymysgedd o ddiddordeb ac arswyd.

Mae Daf y gath yn sefyll wrth ochr y peiriant. Mae’r Archfadarch yn gwasgu botwm. Mae braich yn dod allan o’r peiriant a dechrau crafu cefn Daf y gath. Mae fflwff ym mhobman.

Mae braich arall yn dod allan o’r peiriant i gasglu’r fflwff, cyn llenwi cronfa yn ei ben. Mae’r peiriant yn grwnan am funud.

Yn sydyn, mae gobennydd yn hedfan allan o’r peiriant, wedi’i stwffio â fflwff Daf.

– Dyma ni, meddai Daf yn fodlon.

– Pwy fydd â diddordeb mewn gobennyddion sy’n cynnwys dy fflwff, y dwpsen? meddai Jeff.

– Gallwn ni hysbysebu, meddai Daf.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.