Mae Daf y gath wedi cael syniad am fenter newydd.

Mae hi’n casáu cael ei brwsio. Ond mae hi’n hoffi ennill arian yn fawr iawn.
– Jeff, meddai Daf i’w chwaer, – Beth am i ni werthu ein fflwff ar ôl i ni gael ein brwsio?
– Pwy sydd eisiau fflwff? meddai Jeff.
– Fe allai pobl ei ddefnyddio fel stwffin.
– Stwffio hynny, meddai Jeff, a bant â hi.