– Jeff, meddai Daf y gath un tro, – ma syniad ‘da fi. Gallen ni ennill bach o arian.
O na, dim eto, meddyliodd Jeff.
– Be ti mynd i neud nawr te? gofynnodd Jeff, heb eisiau gwybod.
– Dwi’n mynd i greu asiantaeth recriwtio.
– Ti ddim, meddai Jeff. – Paid bod mor dwp.
Ond yr oedd hi’n mynd i greu asiantaeth recriwtio, dyna oedd y cwbl. Cyn bo hir, roedd sied Dewi Sant wedi cael ei drawsffurfio’n llwyr yn swydd, lle’r oedd Santes Dwynwen a’r Frenhines Branwen yn ateb y ffonau, tra oedd Daf yn eistedd tu ôl i ddesg mawr, yn ymsygu sigâr enfawr.
Ar ôl iddo gael ei daflu allan o’i sied, roedd Dewi Sant yn digartref erbyn hyn. Crwydrodd yr ardd yn ddryslyd gyda photel o win yn yr un llaw, a ffag yn yr un arall.
– Ga i swydd? meddai Dewi, yn drist.
– Na chei, meddai Daf yn greulon. – Bant â chi!
Rhaid i fi ‘i stopio hi, meddyliodd Jeff. Ma’ hi ‘di mynd yn wallgof eto.