October 16, 2024

Mae Daf y gath yn teimlo’n wyllt, achos bod y gwanwyn wedi dod.

Mae hi’n rhedeg o gwmpas sied Dewi Sant, lle mae Dewi yn mwynhau ffag a chwrw.

Mae hi’n rhedeg o gwmpas peiriant cwstard Santes Dwynwen, lle mae Dwynwen yn paratoi archeb enfawr ar gyfer yr Esgob.

Mae hi’n rhedeg o gwmpas yr hanner-siarc, sydd yn jyglo â chyllyll.

– Bydd yn ofalus, meddai’r hanner-siarc.

Mae hi’n rhedeg o gwmpas y Frenhines Branwen, sydd yn llefain ar y ddaear. Mae Branwen wedi dinistrio llawer o bethau unwaith eto.

Tra bod Daf yn rhedeg o gwmpas, mae gyda Jeff y gath ymateb callach i ddychwelyd y gwanwyn a’r heulwen. Mae hi off ei phen ar y catnip.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.