Un tro, roedd y Mistar Afal Hapus dieflig yn cuddio yn nhŵr y cathod unwaith eto. Roedd e’n gobeithio codi ofn arnynt, neu’u rhwystro rhag gael gorffwys o lleiaf.
Yn sydyn, ymddangosodd Franz Kafka, yr awdur enwog, a oedd yn rhyfeddol o fach. Roedd paced gydag e.
– Shwmae, meddai’r awdur. – Fyddet ti’n meindio ‘sen i’n gadel ‘n selsig fan ‘yn plîs?
Gwnaeth Mistar Afal Hapus wyneb go sur.
– We fi’n meddwl taw ti fydd yn amddifiniad ardderchog rhag y cathod, parhaodd Franz Kafka. – Ti ddim yn hoffi selsig, a so nhw’n dy hoffi di. BINGO.
– Bingo, meddai Mistar Afal Hapus, yn ddiflas.