Angharedig

Mae Mistar Afal Hapus braidd yn angharedig wrth Ddraig y ci. Twpsyn yw Draig, ond mae e’n garedig. Nid yw Mistar Afal Hapus yn garedig o gwbl.

Mae Mistar Afal Hapus yn eistedd ger sied Dewi Sant. Bob yn ail funud, mae e’n gweiddi “Cwningen!” ac mae Draig yn rhedeg o gwmpas yr ardd yn wyllt yn chwifio ei gynffon.

Does dim cwningod.

Yna mae Mistar Afal Hapus yn diflasu â’r gêm hwn, ac mae e’n gweiddi “BWYD!” nerth ei ben.

Mae’r cathod yn ymddangos. Does dim bwyd. Ond nawr mae ‘na ddwy gath grac.

Cyn bo hir, mae’r Mistar Afal Hapus anfad hwn yn stryffaglu i anadlu mewn bwced o ddŵr. Dyna drueni.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.