October 16, 2024

Un tro, ymddangosodd cloronen enfawr yn yr ardd. Rhyfeddol o enfawr. Doedd neb wedi’i chloddio. Fe wnaeth hi ond yn ymddangos.

– Be di hwna? gofynnodd Jeff.

– Sai’mod, meddai Daf, – ond so hi’n edrych fel ‘sen ni’n gallu’i byta.

– Cais ofnadw am jôc crefyddol yw hi, meddai Dewi Sant. – Yn y Beibl, tuba mirum sy’n datgan diwedd y byd. Ond so’r jôc yn gweithio yn y Gwmrâg.

– Diolch am esbonio, meddai Jeff. – Dylai’r awdur câl y sack.

– Os bydd diwedd y byd yn dod, sdim pwynt becso am dim byd te, wes e? meddai Daf. – Yn lle poeni, beth am i ni gael parti?

– Parti amdani, meddai Dewi Sant, yn agor potel o gwrw.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.