Un tro, roedd Dewi Sant yn chwibanu’n ddifyr wrth iddo lwytho blychau o lyfrau o’i sied i mewn i gart.
– Be ti neud? gofynnodd Jeff y gath, yn rhesymol.
– Dwi’n cae ‘n siop lyfre, meddai Dewi, yn tanio ffag. – Sneb yn darllen dim byd fan hyn.
– We ana i’n gwbod wedd siop lyfre da ti. Dylet ti fod wedi hysbysebu.
– Sdim pwynt. Sneb yn prynu llyfre. Ma’n nhw i gyd yn rhy brysur yn prynu blydi cwstard cariad.
Fe ystumiodd tuag at peiriant cwstard Santes Dwynwen, lle’r oedd ciw hir.
– Ma’n nhw’n fastads i gyd, melltithiodd Dewi, yn taflu cant gopi o “Y Dydd Olaf” i mewn i flwch.