Ar ôl i Mistar Afal Hapul roi chwain i Jeff, fe ddechreuodd rhyfel rhyngddo fe a’r cathod.
– Jeff, ma syniad da fi, sibrydodd Daf. – Beth am i fi chwydu drosto fe?
– Ym, meddai Jeff. – Wel, bydde ‘ny’n ddwysâd go iawn, yn fydde?
– Bydde.
– O’r gore. Ond paid â chwydu ar ‘ngwely, diolch yn fawr.
Ond yr oedd Daf yn un weddol gwael am chwydu mewn lle penodol.
– DAF, PAID! ebychodd Jeff wrth i Daf wagu ei stumog dros ei gwely.
Gwelodd Mistar Afal Hapus popeth a chwerthin yn anfad.