Dyw Mistar Afal Hapus yn afal neis o gwbl, mewn gwirionedd.
Y tu ôl i’w lygaid hapus a’i wên hapus, mae ‘na ddrygioni. Pan mae pawb yn ymddwyn yn garedig, mor hapus yw e. Ond fel arall, afal anfad yw e.
Mae Daf y gath wedi rhoi chwain iddo fe. Nawr, ei dro ef yw e. Mae Mistar Afal Hapus yn rholio o gwmpas ar wely Jeff. Ac aros.
Cyn bo hir, mae Jeff yn dringo ar ei gwely hi. Cyn bo hir, mae’r crafu yn cychwyn.
– DWI MOR HAPUS, meddai Mistar Afal Hapus, ei wyneb yn llawn o gasineb.