Mae Mistar Pysgodyn Groovy’n helpu Mistar Afal Hapus i fod yn fwy groovy. Mae hyn yn dasg eithriadol o anodd.
– Rwyt ti mor sgwâr, meddai Mistar Pysgodyn Groovy. – Wyt ti eisiau trio tipyn bach o catnip?
– Dw i ddim yn cymryd cyffuriau, ateba Mistar Afal Hapus. – Does dim angen achos fy mod i MOR HAPUS.
– Tybed os yw e fel hyn mewn angladd? mae Mistar Pysgodyn Groovy yn gofyn i Jeff.
– Sai’mod, ateba Jeff. – Ond poen yn y pen-ôl yw e.