October 16, 2024
“Ti’n niwsans.”

Mae dau degan y cathod yn siarad gyda’i gilydd.

– HELO, meddai Mistar Afal Hapus, – DWI MOR HAPUS.

– Helo, meddai Mistar Pysgodyn Groovy, – dwi mor groovy.

– BRAF CWRDD Â TI, meddai Mistar Adal Hapus, â gwên lydan. – DWI MOR HAPUS.

– Paid bod mor swnllyd. Ti’n niwsans, meddai Mistar Pysgodyn Groovy. – Tria bod yn fwy chilled. Mwy groovy.

– ‘SEN I’N FWY GROOVY YNA FYDDET TI’N HAPUSACH?

– Wel, dwi’n hapus yn barod oherwydd y cyffuriau, jyst yn dawelach na ti, ond, wel, baswn, ie.

Mae Mistar Afal Hapus yn ceisio bod yn groovy. So hynny’n gweithio.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.