Un tro, ar ôl i Keith y gowrd ddinistrio’r Prifdaten a’i fyddin, roedd y madarch yn gorymdeithio o gwmpas yr ardd. Jyglai’r hanner-siarc â grenadau, ac roedd Santes Dwynwen wrthi’n paratoi coctêls Molotof o gwstard ffrwydrol sbesial. Roedd yn amlwg bod rhywbeth ar fin digwydd.
Ac yna, digwyddodd.
Gyrrodd Daf y gath i mewn i’r ardd yn ei fan newydd, sef blwch cardbord arall wedi’i atgyfnerthu â thâp gludiog. Roedd Daf i weld yn gwisgo siwt o arfwisg.
– Mae’n debyg bod yr Esgob ar ei ffordd, rhybuddiodd.