Pasiodd amser. Roedd pawb bron wedi anghofio am y gystadleuaeth. Chwaraeai Draig y ci gyda Mistar Penglog, osgoai Jeff Mistar Pysgod Groovy, a pharhâi Santes Dwynwen i wneud mwy o gwstard na allai unrhyw un ddefnyddio.
Un tro, ymddangosodd fan. Dadlwythwyd pentwr o flychau o fwyd cathod.
– Aha, meddai Jeff y gath, – dyma fy ngwobr.
– Be ti feddwl “dyma fy ngwobr”? gofynnodd Daf.
– Wel, nes i ymgais i’r gystadleuaeth lenyddol o dan ffugenw.
– Be wedd dy stori te?
– Oh, t’mod. Nes i sgwennu rhywbeth gwirion am ddyn sy’n sgwennu stori am gystadleuaeth lenyddol ar ei blog am ei gathod.
– Am meta, meddai Daf.