Yn yr ardd, roedd Daf y gath yn darllen telerau ac amodau’r gystadleuaeth lenyddol.
- Mae’r gystadleuaeth yma yn cael ei threfnu gan yr Esgob.
O na, meddyliodd Daf.
- Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb sy’n siarad Cymraeg – pobl, cathod, llysiau ac yn y blaen.
Da iawn, meddyliodd Daf. Gall hyd yn oed Draig y ci roi cynnig arni ‘te.
- Rhaid i ymgeiswyr ysgrifennu stori ar y thema ‘Y gystadleuaeth lenyddol’.
Am meta, meddyliodd Daf.
- Rhaid i’r stori fod yn un wreiddiol, sy heb ei chyhoeddi. Rhaid i’r stori gwneud rhyw fath o synnwyr. Does dim le i lol llwyr fel siediau’n cael eu gyrru fel cerbydau, er enghraifft.
Dim problem, meddyliodd Daf, does dim sôn am flychau cardbord sy’n cael eu defnyddio fel faniau dosbarthu.
- Ddylai ceisiadau ddim cynnwys deunydd difenwol, anweddus, sarhaus, neu unrhyw ddeunydd anaddas arall. Dydy’r Esgob ddim eisiau gweld unrhyw beth amharcus am seintiau, er enghraifft.
Iawn, well i ni beidio sgwennu am y cwstard cariad.
- Mae ymgeiswyr yn cadw’r hawlfraint yn eu ceisiadau ond yn rhoi trwydded anghyfyngol, ddi-freindal am byth i’r Esgob gyhoeddi ar-lein a phostio’r cais ar unrhyw blatfformau. Bydd unrhyw arian a ennillir gan y stori ond yn gorffwys yn ei gyfrif.
Reit, amdani ‘te.