October 16, 2024

Un tro, roedd Daf y gath wedi cael syniad am fenter newydd er mwyn ennill bach o arian.

– Jeff, drycha, meddai, yn dangos taflen iddi, – Mae ‘na gystadleuaeth lenyddol eleni. Rhaid i ni gyd sgwennu rhywbeth. Hanner can punt a blwch o greision ŷd yw’r wobr.

Rholiodd Jeff ei llygaid.
– So fi’n hoffi creision ŷd. Dw i’n hoffi bacwn.

A bant â hi.

Penderfynodd Daf gasglu pawb at ei gilydd er mwyn datgan ei chyfarwyddiadau. “Y Gystadleuaeth Lenyddol” oedd y thema. Beth allai fynd o’i le?

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.