Mae Daf y gath yn siarad â’r Archfadarch. Mae syniad gyda hi. Mae hi’n mynd i chwarae tric ar Jeff.
– Dw i’n mynd i wisgo lan fel mochyn, er mwyn chwarae tric ar Jeff, meddai Daf i’r Archfadarch.
– Mae hynny’n swnio’n beryglus iawn i fi, meddai’r Archfadarch. – Fe allet ti bennu lan mewn darnau o gathfacwn. Heb eu halltu.
Mae Daf yn ailystyried, ac edrych ar Draig y ci, sy’n bod yn fachgen da iawn.
– Draig! Dere ‘ma.