Dyw Jeff y gath ddim yn hapus gyda Daf. Mae mentrau busnes Daf wastad yn hollol dwp. Dyw hi ddim wedi gwneud dim elw o gwbl.
– Felly… meddai Jeff, yn grac nawr, – Rwyt ti wedi gwneud i Santes Dwynwen lefain, mae Branwen a Dewi Sant yn socan… pa fath o gysyniad rhamantus sy’n dod nesa?
– Dw i ddim yn siwr, meddai Daf. – Dw i’n rhedeg mas o syniadau. Beth am i ni gynnig tri dymuniad i bobl?
– Y’n ni wedi cael stori am dri dymuniad o’r blaen. Eniwê, pwy sy’n mynd i freinio’r dymuniadau?
– Allen ni ofyn i Dewi Sant i gael sgwrs gyda Duw.
Mae Jeff yn edrych ar Dewi Sant. Mae e wedi bod yn yfed eto, ac mae fe wedi pasio mas.
– Faint mor aml yn union wyt ti’n meddwl bod Dewi Sant yn siarad â Duw?