October 16, 2024

Mae Daf y gath wedi bod yn siarad gyda’r Frenhines Branwen. Mae hi wedi gweld hysbyseb Daf, a felly mae hi eisiau gwahodd Dewi Sant i fynd ar fordaith rhamantus Dydd Santes Dwynwen gyda hi, tamaid bach yn gynnar.

– Na, paid, meddai Jeff y gath iddi hi. – Dwyt ti ddim yn gwybod beth wyt ti’n gwneud.
– Bydd y fordaith yn hyfryd, meddai’r Frenhines. – Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn ati hi.

Mae hi’n mynd â Dewi Sant i lawr i lannau’r afon, lle mae Daf y gath yn aros amdanyn nhw gyda’r bwced.

– Pum punt bydd y fordaith hon… diolch yn fawr… nawr dringwch i mewn i’r bwced ‘ma, meddai Daf.

Yn syth ar ôl iddyn nhw ddringo i mewn, mae hi’n eu taflu nhw i mewn i’r afon.
– Help! Alla i ddim nofio! meddai’r Frenhines.
– Bydd gwersi nofio’n costio pum punt arall yn ychwanegol, meddai Daf.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.