December 25, 2024

Mae Jeff y gath yn dod o hyd i daflen ar y llawr yn yr ardd. Hysbyseb yw e.

MORDAITH RHAMANTUS
DYDD SANTES DWYNWEN

Rhowch atgofion prydferth
i’ch cariad

Cysylltwch â Daf y gath
am ragor o wybodaeth
neu ail-ddarllen y daflen hon

– Daf? meddai Jeff.
– Ie?
– Rwyt ti ond yn mynd i wneud iddyn nhw ddringo i mewn i’r bwced, a’u taflu nhw i mewn i’r afon, on’d wyt?
– Ydw. Ond bydd cyfle i ni wneud bach o arian.

Mae Jeff yn rholio ei llygaid hi unwaith eto.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.