October 16, 2024
Jeff mewn bwced
“Basai’r bwced yn gylflymach.”

Mae Santes Dwynwen yn llefain. Mae hi wedi ei gorchuddio â chwstard, ac yn diferu’n drist. Mae hi wedi cael hen ddigon o gwstard cariad. Mae hi wedi cael hen ddigon o fod yn Santes. Mae hi wedi cael llond bola o bopeth. Mae hi eisiau mynd adre.

– Beth am i ni jyst cael un diod bellach yn y tafarn? gofynna Dewi Sant.
– JYST GADEWCH I FI FYND ADRE, wyla Santes Dwynwen.
– Dim ond un.
– WAAAAAAAA.

Mae Daf y gath yn ystyried beth i’w wneud.
– Dw i ddim yn hollol sicr, ond dw i’n meddwl bydden ni’n cael ein dosbarthu gartref pe tasen ni’n dringo’n ôl i mewn i’r blychau.
– Da iawn, Daf. Am ddyfais plot cyfleus, meddai Jeff y gath. – Ond beth am ddefnyddio’r bwced hwn?
Mae hi’n pwntio tuag at fwced du gerllaw.
– Basai’r bwced yn gyflymach, oni fasai?

Felly mae pawb yn dringo i mewn i’r bwced ac aros am y bennod nesaf.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.