October 16, 2024

Mae Dewi Sant yn baglu allan o’r tafarn yng Ngwlad Pwyl,  cyn baglu dros bentwr o flychau eraill. Mae e wedi bod yn yfed yn drwm, ac mae e’n ceisio tanio ffag gyda hen feiro. Heb lwyddiant, wrth gwrs. Ond mae e’n parhau i fod yn ddryslyd. Pam nad yw’r ffag yn tanio?

Cyn iddo fe sylweddoli beth sy’n digwydd, mae Daf y gath yn ffrwydro allan o un o’r flychau, dilynwyd gan Jeff y gath a Santes Dwynwen o’u blychau eu hunain.

– Am daith anghyffyrddus, meddai Daf.
– O na, meddai Jeff, – Edrycha ar Santes Dwynwen. Mae hi wedi’i gorchuddio’n llwyr â chwstard. Efallai bod un o’i jariau wedi cael ei dorri.

Mae Jeff yn gywir. Mae Santes Dwynwen yn diferu’n drist.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.