Mae Santes Dwynwen yn ymlacio yn yr ardd ar ôl iddi dacluso popeth. Mae hi’n rhannu potel o gwrw gyda Dewi Sant pan mae’r dyn y post yn cyrraedd a gollwng blwch yng nghanol y glaswellt.
Mae’r blwch yn edrych fel anrheg. Mae e wedi cael ei lapio mewn papur lapio, ac mae rhubanau ym mhobman. Mae’r blwch yn eitha mawr, tua’r un maint â chath. Enw Santes Dwynwen sydd ar y blwch. Am gyffrous.
Yn sydyn, mae Daf y gath yn ffrwydro o’r blwch.
– Syrpreis, meddai hi. – Dyma fy syniad newydd am fenter busnes. Galli di cael dy ddosbarthu at dy gariad di drwy’r post.
– Ond beth fyddai’n digwydd taset ti’n mynd ar goll yn y post? gofynna Santes Dwynwen.
– Yna byddet ti’n cael bach o antur, meddai Daf, yn falch iawn ohoni hi ei hun.