Pan gyrraeddodd Daf y gath yr ardd, gwelodd hi olygfa anghredadwy o ddieithr. Roedd Dewi Sant yn eistedd yn y troli siopa, gyda’i photeli o win a chwrw o’i gwmpas. Roedd yn gawr o ddyn, felly oedd y troli siopa’n anghyffyrddus iawn iddo.
– Be’ ti neud fan’na? gofynnodd Daf, heb ddiddordeb, ar ôl iddi ollwng ei roced ar y llawr.
– Wel, os we ti ddim ‘di sylweddoli, ma sied fi ‘di diflannu. Tybed os ti’n gwbod unrhywbeth amdani? meddai’r Sant yn grac.
– Ymm, nadw, meddai Daf. Cochodd mewn embaras. – Gwranda, dw i ‘di dod i’r casgliad bod cymryd drosodd y byd i gyd yn ormod fel waith caled i fi. Ga i iste yn y troli gyda ti?
A felly, eisteddodd Daf y gath i lawr wrth ochr Dewi Sant, a daniodd y roced gyda’i ffag. Saethodd y roced i lan i’r awyr a ffrwydro y roced mewn calonnau pinc, a gwnaeth pawb gymeradwyo yn frwdfrydig. Rhuthrodd sawl moch heibio mewn panig, dilynwyd gan Jeff a Franz Kafka.