Roedd Daf y gath ar fin gyrru sied Dewi Sant bant pan agorodd y drws. Ymddangosodd Jeff rownd y gornel.
– Daf, dw i ‘di câl syniad.
– Dim syniad arall, griddfannodd Daf. – Be’ nawr? We fi ar fin gyrru bant ac wedyn anelu’r roced tuag at San Steffan i ddechrau’n ymgyrch i gymryd drosodd y byd i gyd.
– Allet ti ddod yn berygl baglu yn lle, meddai Jeff. – Gwylia.
Aeth Jeff mas o’r sied, a gorwedd i lawr ger tŷ’r staff. Cyn bo hir, roedd Santes Dwynwen, Dewi Sant, Y Frenhines Branwen a Franz Kafka wedi baglu drosti hi a chwympo ar y ddaear. Roeddent i gyd wedi’u gorchuddio â chleisiau.
– ‘Na ni, meddai Jeff. – Perygl baglu amdani.
– Na, ti’n OK, meddai Daf. – Dw i dal am danio’r roced.