October 16, 2024

Cerddodd Daf y gath o gwmpas Dewi Sant. Roedd angen panel o’r sied er mwyn creu arfedigaeth ar gyfer ei throli siopa. Heb arfedigaeth, basai’n amhosib iddi gymryd drosodd y byd i gyd, a basai hi wedi methu ei adduned Blwyddyn Newydd.

Dewisodd panel neis iawn, yn agos at y drws. Ond, heb rybudd, ymddangosodd Dewi Sant.

– Be’ ti neud, Daf? meddai’r sant. – Ti’n skulko o gwmpas fel lleidr gyda’r nos.
– Ymm, dim byd, meddai Daf, a dechrau llyfu ei thraed yn ddiniwed.
Cwympodd Dewi Sant i lawr, wedi meddwi fel arfer, a dechrau chwyrnu a fflympo’n uchel iawn.
– ‘Na ni, mwmianodd Daf i’w hun.

Yr eiliad hon, cafodd Daf syniad. Beth am jyst dwyn yr holl sied i gyd? Roedd hi siwr o fod hyd yn oed yn yn gyflymach na’r troli. Symudodd Daf y roced o’r troli i mewn i’r sied a pharatoi ei cham nesaf.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.