December 24, 2024

Y bore canlynol, tra oedd Dewi Sant yn arwain oedfa tu fewn i’w sied gyda’r Frenhines Branwen, edrychodd Daf y gath lan o’i thraed a gweld ei ffrind Jeff yn cario roced fawr yn ei cheg.

– Tamed bach o anrheg i ti yw honna, meddai Jeff. – We fi am ddweud sori am dy anwybyddu.
Ni ddaeth ateb. Anwybyddodd Daf Jeff yn gyfan gwbl.

– ‘Drycha, gallai hi fod yn help mawr o ran dy gynllun i gymryd drosodd y byd i gyd. Am drechu dy elynion, t’mod?
– Sa i isie fe, pwdodd Daf. – Jyst gad hi yn y troli a cher o ‘ma.
Gwneler dy ewyllys, meddai Jeff, a bant â hi.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.