Un tro, ymddangosodd troli siopa yn yr ardd. Un newydd, sgleiniog oedd e, â llwnc bach ar ei ddolen ar gyfer darnau punt. Roedd Santes Dwynwen eisioes wedi dechrau’i llenwi â photiau o gwstard cariad, a rhedai Draig y ci o’i gwmpas yn frwdfrydig.
Cyrraeddodd Jeff y gath galico, ar ôl taith “busnes” a gweld Daf y gath sinsir yn eistedd ar ben mynydd o botiau Santes Dwynwen gerllaw.
– Aros am funud, meddai Jeff. – Beth sy’ ‘di digwydd i’r pla?
– We fi ‘di câl hen ddigon o’no fe, atebodd Daf. – Nath Santes Dwynwen e mewn llwythi o gwstard. Dyfais blot daclus, on’d ife?
– Iawn. Ble mae’r staff?
– Mae’r staff wedi mynd.
Edrychodd Jeff o gwmpas, a sylwi’r troli siopa.
– Be’ ti’n mynd i neud gyda hwn? gofynnodd Jeff.
– Gweithredu yn ôl fy adduned Blwyddyn Newydd, meddai Daf, yn llyfu ei thraed. – A chymryd drosodd y byd.
– Reit. Gawn ni fynd nawr?