December 24, 2024

Cyn hir, roedd Franz Kafka wedi clirio’r ardd o waed, ac roedd pawb yn llawn dop o bwdin du. Hepiai’r cathod, oedd yn awr yn rownd iawn.

– Pla nesa amdani, meddai’r pla, gan chwifio ei dentaclau.
– Beth? mwmianodd Daf y gath, yn dihuno’n araf. – Ni ddim ‘di dod yn ôl at ein coed ar ôl ‘run diwetha eto.
Look, ti isie’r pla nesa neu beidio? ymatebodd y pla, yn anamyneddgar. – Mae rhestr hir i ni fynd drwyddo.
– Pla nesa amdani, te, meddai Daf, yn flinedig.
– Ti’n mynd i joio hwn. ‘Drycha.

Ymddangosodd cwpl o liffantod ym mhowlen dŵr Jeff.
– We ano ‘ny mor drawiadol, â weud y gwir, meddai Daf, gan godi ael.
– Aros am funud, meddai’r pla.

Ar ôl ymdrech mawr gan y pla, ymddangosodd dim ond un lliffant arall.
– Byddwn i’n rhoi’r gorau iddi, ‘sen i’n ti, meddai Daf.
– Am siomedig. Na i ofyn i’r madarch i’n helpu ni eto y tro nesa.

A bant â’r pla er mwyn paratoi ychydig o dincen.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.