Ar ôl i’r pla glirio lle yn sied Dewi Sant i fwyd cathod, trawyd Daf y gath gan sylweddoliad bod rhywbeth o’i le. Roedd y pla yn chwarae yn hapus gyda Draig y ci mewn cornel, wrth i Franz Kafka canu cân fudr am selsigen Nadoligaidd.
– Esgusodwch fi, Mistar Pla, meddai Daf, yn rhyfedd o foneddigaidd, – ond dw i’n meddwl eich bod chi wedi dechrau yn y drefn anghywir yn ôl y Beibl.
– Wel, falle, meddai’r pla. – Ond shwt fyddet ti wedi disgwyl i fi glirio lle yn y sied hon gyda phla o waed?
– Pwynt da iawn, atebodd Daf. – Ond beth am i ni ddechrau o’r dechrau nawr?
– Pla o waed amdani, ‘te, meddai’r pla.
Mwmianodd y pla sbel hudolus arall, gyda bach o help gan y madarch, a oedd erioed yn fodlon achosi bach o drafferth i’r cathod. Cyn hir, roedd yr ardd wedi troi mewn pwll dwfn o waed. Gallwyd pen to sied Dewi Sant, lle clwydai’r cathod, ei weld uchod y lif arswydus.
– Cofiwch yr ardd, meddai Jeff. – Dw i’n gwbod bo ti isie osgoi Nadolig yn gyfan gwbl, Daf, ond mae hyn yn ridiculous.
Ond llyfai Daf ei thraed heb ddiddordeb.
Sylweddolodd Jeff bod Franz Kafka yn eistedd ar y ffens. Roedd wrthi’n gwneud rhywbeth gyda phâr o deits a stof wersylla.
– Be ‘ti neud? gofynnodd Jeff wrtho.
– Bydd gwledd mawr o bwdin du! ebychodd Franz Kafka.
– Am flasus, meddai Jeff.