December 24, 2024

Annwyl Esgob,

Esgusodwch fi, os gwelwch chi’n dda, ond alla i ddim dod draw i roi cynnig ar ymddiheuro, achos:

  1. Dw i ddim yn gwybod sut i ddefnyddio’r peiriannau tocynnau yn yr orsaf trên.
  2. Mae fan Daf y gath wedi torri i lawr eto.
  3. Mae Mistar Penglog wedi brathu fy nhraed, a dw i’n methu cerdded.
  4. Mae’r glaw yn cwympo drwy do fy sied ac mae rhaid imi achub fy mhapurau pwysig. A ffags.
  5. Mae Santes Dwynwen wedi gorchuddio popeth â chwstard. Eto.
  6. Dw i ddim wedi cwblhau croesair heddiw.
  7. Mae Jeff y gath wedi argàu drws fy sied â bwyd cathod, a dw i’n methu’i adael.
  8. Mae Franz Kafka wedi codi anobaith arnaf eto.
  9. Mae’r tatws yn trefnu ymgyrch yn fy erbyn i.
  10. Dw i wedi bod yn yfed gormod ac mae pen tost arnaf, felly byddai’ch bloeddio yn amhosib dioddef.
  11. Mae Jeff y gath wedi bwyta’r ymddiheuriadau i gyd.

Hwyl am y tro,
Dewi Sant

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.