December 24, 2024

Dyma Dewi Sant.

Heddiw mae Dewi Sant yn mynd i deithio i Gaerdydd. Dyw Dewi Sant ddim yn hoffi teithio. Mae e’n ei gasàu e.

Yn anffodus, mae angen ymweld â’r esgob ar Dewi. Dyw Dewi Sant yn hoffi’r esgob achos bod coludd ofnadwy gyda fe. Ac mae’r esgob wastad yn bloeddio arno fe. Mae Daf y gath yn mynd i Gaerdydd gyda Dewi Sant, er mwyn ei warchod. Mae Dewi Sant yn yfed yn barod.

Dyma Dewi Sant yn nesâu at beiriant tocynnau. Dyw Dewi Sant ddim yn gwybod sut i ddefnyddio peiriant tocynnau. Y tro diwethaf iddo fe deithio ar trên oedd rhywbryd yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg.

“Sut mae’r peiriant ‘ma’n gweithio?” gofynna Dewi Sant i Daf y gath.
“Rwyt ti’n rhoi dy arian di i mewn iddo fe, mae e’n mynd yn rong, ac wedyn mae dy arian di’n diflannu,” meddai Daf, heb ddiddordeb.
“Diolch yn fawr,” meddai Dewi Sant. Mae e’n rhoi ei arian i mewn i’r peiriant. Mae’r peiriant yn mynd yn rong. Mae arian Dewi Sant yn diflannu.

“Beth am i ni jyst fynd adre?” gofynna Daf.
“Syniad da,” ateba Dewi Sant.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.