October 16, 2024

Fe gafodd Jeff y gath sioc pan ymddangosodd llythyr yn ei phowlen. Bu bron iddi ei fwyta. Agorodd yr amlen cyn gynted â phosibl, yn frwd, a dechrau ei ddarllen.

Re: Swydd Gweithredwr Peiriant Cwstard
Annwyl Jeff y gath

Diolch yn fawr iawn am eich diddordeb yn y swydd hon. Byddaf wrth fy modd yn eich gwahodd i gyfweliad. Does dim angen paratoi arnoch. Dewch â thyrnsgriw, os gwelwch chi’n dda, ond darperir darn o bren.

Nodwch y byddwch yn cystadlu yn erbyn dim ond un ymgeisydd arall. Edrychaf ymlaen at eich cwrdd.

Cofion,
Dwynwen (Santes)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.