October 16, 2024

Ar ôl i Jeff gwblhau ei CV, fe ddangosodd hysbyseb swydd, wedi’i hoelio i goeden yn yr ardd.

Cyfle Cyffrous – Gweithredwr Peiriant Cwstard
Santes yn chwilio am weithredwr peiriant cwstard.
Nid oes angen profiad o’r blaen. Basai’r swydd hon yn addas i gath galico.
Byddwch yn gweithio fel rhan hanfodol o dîm sydd yn darparu cwstard cariad i’r ardal gyfan.
Bydd angen bod yn fodlon bwrw cathod eraill efo darn o bren arnoch. Atebwch efo CV, os gwelwch yn dda.

Dyna’r swydd i fi, meddyliodd Jeff, a pharatoi i ateb yr hysbyseb.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.