October 16, 2024

Parhâi Jeff i weithio ar ei CV hi.

Sgiliau ac ansoddau hanfodol

Gryf iawn am gyfathrebu mewn ffyrdd sydd yn addas i’w chynulleidfa – gan amla i berswadio’r staff, neu Dewi Sant, i’w bwydo.

Da iawn am floeddio er mwyn tynnu sylw, yn enwedig gyda meicroffon.

Gweithredydd hyderus o ran hela.

Meddyliwr cryf a chreadigol o ran gysyniadau sydd yn berthnasol i hela neu ddwyn bwyd.

7 mlynedd o brofiad lladrad, yn gynnwys 6 mlynedd a hanner o brofiad o ladradd oddi wrth Daf.

Steil arweiniad agored a diddordeb mawr mewn datblygu sgiliau ac ymddygiadau proffesiynol cathod eraill trwy fentora a’u taro gyda darn o bren.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.